Dyma beth ddigwyddodd yn ystod 6 mis cyntaf Caru Eich Cartref:
Gosodwyd 43 o flychau plannu ledled Caerdydd. Mae rhai mewn 13 o wardiau gwahanol ac mae pob un yn edrych yn wych. Mae pob un yn unigryw gan ddiwallu anghenion y trigolion lleol ac mae llawer o bobl yn tyfu bwydydd ar eu cyfer eu hunain.
Yng Ngogledd Llandaf maen nhw wedi tyfu amrywiaeth o wahanol lysiau ac maen nhw’n darparu cynnyrch ffres ar gyfer caffi’r hyb y gall pobl leol eu mwynhau, ac maen nhw’n blasu’n wych! Yn Sblot, cafodd yr holl berlysiau a oedd eu hangen i baratoi cinio Nadolig eu tyfu mewn blwch plannu. Roedd eraill wedi gosod eu bryd ar liwiau a pheilliaid i fywiogi eu strydoedd ac i annog bywyd gwyllt lleol fel gwenyn i ddod i fyw yno.
Mae ein grwpiau Cadwch yn Daclus hefyd wedi bod yn gweithio’n ddiwyd drwy gydol y flwyddyn ac mae partneriaeth Glanhau’r Strydoedd a Chadwch Gymru’n Daclus wedi mynd o nerth i nerth. Gyda’n gilydd, rydym wedi cynorthwyo 19 o grwpiau cymunedol sydd allan yn y gymuned i wirfoddoli yn eu hamser sbâr a chadw’r ardaloedd lleol yn daclus. Gyda’i gilydd, mae pobl leol wedi ymroi mwy na 4000 o’u horiau i wirfoddoli ac maen nhw wedi cyfrannu at 720 o ddigwyddiadau tacluso lleol.
Yn ogystal â Phencampwyr Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus, rydyn ni hefyd wedi lansio ein Pencampwyr Carwch Eich Cartref ein hunain, a bydd preswylwyr bellach yn gallu llogi offer gan hybiau a llyfrgelloedd lleol. Mae hyn wedi’i beilota yn hyb Grangetown gyda 3 phencampwr penigamp a bydd ar waith cyn bo hir yn Hyb Gogledd Llandaf a Gabalfa, a Llyfrgell Cathays.
Mae cymdogion hefyd wedi dod at ei gilydd yn eu strydoedd ac maen nhw wedi bod allan i glirio dail yn rhan o gynllun Sgubo’r Stryd Caerdydd a bydd ardaloedd megis Glan-yr-afon, y Rhath, Cyncoed, Caerau, Grangetown, a Radur bob un yn cymryd rhan ynddo. Bu 28 o ddigwyddiadau mewn 32 o heolydd.
Rwy’ hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda rhai o’r ysgolion arbennig yn ystod y chwe mis diwethaf. Bues yng nghwmni St Bernadette’s ar gyfer ei hwythnos Eco gan fynd â phob dosbarth allan i godi sbwriel a siarad â nhw ynghylch pwysigrwydd peidio â gollwng sbwriel. Aeth y tîm i Ysgol Gynradd Lakeside i gyflwyno gwobrau i enillwyr ein hymgyrch post ymwybyddiaeth, felly peidiwch â methu’r dyluniadau buddugol ar ein loris bin! Daeth pwyllgor eco hyfryd St. Cuthbert â ni ar sesiwn codi sbwriel yn Llanrhymni mewn partneriaeth â Greggs.
Bu Ysgol Cathays ac Ysgol Uwchradd Willows hefyd yn cael blas ar waith amgylcheddol a byddwn ni’n parhau i weithio gyda nhw yn y flwyddyn newydd. Gwnaeth rhai o ddisgyblion Blwyddyn 10 y Fagloriaeth Gymreig droi llain o dir difywyd yn ardd i’r gymuned leol.
Yn fwyaf diweddar rydyn ni wedi lansio’n bathodyn Carwch Ein Cartref i grwpiau Scouts a Guides ledled Caerdydd.
Mae’r holl waith hyn, a mwy, o fewn 6 mis yn gyflawniad nid ansylweddol, ac alla i ddim aros at gael dechrau 2018 a’r hyn a ddaw. Os hoffech chi gymryd rhan yn unrhyw un o feysydd gwaith ymgyrch Carwch Eich Cartref, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio’r manylion canlynol:
carwcheichcaerdydd@caerdydd.gov.uk neu 029 2071 7717
Comments are closed.