Bob mis Medi bydd y Swyddog Cydgysylltu Myfyrwyr Emma Robson yn gweithio’n ddiflino i setlo’r gymuned o fyfyrwyr yn eu cartrefi newydd yn Cathays, y Rhath a Gabalfa. Fe ddalion ni lan gydag Emma i ddysgu mwy am yr hyn mae hi’n ei wneud i helpu’r gymuned yn gyffredinol.
Emma, mae mis Medi yn brysur iawn i ti; elli di ddweud wrtha i beth ti’n ei wneud a beth sy’n dy gadw di’n brysur weddill y flwyddyn?
Dw i wedi bod yn helpu myfyrwyr i bontio i’w cartrefi newydd yn y gymuned. Dw i wedi bod i 10 digwyddiad y Glas a’i ddilyn drwy gnocio ar ddrysau yn Cathays, Plasnewydd a Gabalfa.
Y peth nesaf yw’r ymgyrch “Avoid the Pitfalls” er mwyn cynghori myfyrwyr y flwyddyn gyntaf am chwilio am dŷ ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac ymgyrch newydd i addysgu tenantiaid am effeithlonrwydd ynni yn y sector rhent preifat, er mwyn ceisio arbed arian iddynt, i gynyddu effeithlonrwydd ynni ac atal tamprwydd a llwydni yn eu cartrefi.
Cefnogir y ddwy ymgyrch gan ein grŵp gwirfoddoli i fyfyrwyr , sef Pencampwyr Amgylcheddol, sy’n gweithio’n galed i wella ansawdd bywyd i fyfyrwyr a’u cymdogion yn y gymuned. Eleni, rydym wedi hyffordd 37 o wirfoddolwyr hyd yn hyn, sydd wedi cwblhau mwy na 220 awr o wirfoddoli ers mis Medi. Cyflawniad gwych!
Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw newidiadau o ran arferion myfyrwyr neu agweddau tuag at fyfyrwyr yn ystod y cyfnod y buoch chi’n gwneud eich swydd?
Dw i wedi sylwi bod myfyrwyr yn mynd yn fwy ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau nawr na phan ro’n i’n fyfyriwr, dros 5 mlynedd yn ôl. Dw i hefyd wedi sylwi ar newid ymddygiad o ran ailgylchu. Erbyn hyn mae mwy o chwant ar fyfyrwyr i ailgylchu a lleihau eu gwastraff.
Yn yr un ffordd, mae preswylwyr mwy parhaol yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb o groesawu eu cymdogion newydd sy’n fyfyrwyr, trwy ddosbarthu calendrau casglu gwastraff a sicrhau eu bod yn gwybod i ble gallan nhw fynd i gael help os bydd angen.
Beth yw’r camsyniadau cyffredin am fyfyrwyr yng Nghaerydydd?
Eu bod i gyd yr un peth. Os cawsoch eich aflonyddu gan gymdogion sy’n fyfyrwyr yng nghanol y nos oherwydd parti mawr, neu’n byw y drws nesaf i dŷ llawn myfyrwyr sy’n anwybyddu eu diwrnodau casglu biniau, mae’n rhwydd i breswylwyr gredu bod pob myfyriwr yn swnllyd ac nad oes ots ganddynt am eu hamgylchedd neu’r gymuned maent yn byw ynddi.
Mewn gwirionedd mae llawer o fyfyrwyr â diddordeb mewn cymryd rhan yn eu cymuned, ac maen nhw eisiau talu’r pwyth yn ôl a gwneud gwahaniaeth i’r ddinas maent nawr yn galw’n gartref. Mae cannoedd o fyfyrwyr yn dewis gwneud hyn drwy wirfoddoli, ac mae llawer o fyfyrwyr yn dewis gweithio gyda phlant, pobl hŷn a’r rhai sy’n agored i niwed yn ein cymdeithas, yn ogystal gyda phrojectau sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd, y gymuned, chwaraeon a hamdden.
Fyddwch chi’n gweithio gyda phobl eraill yn y gymuned o gwbl?
Dw i’n gweithio gyda phobl o bob math er mwyn gwneud y gymuned yn lle mwy diogel, yn lanach ac yn hapusach. Byddaf yn mynychu cyfarfodydd PACT (Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd) yn y gymuned er mwyn gwybod y newyddion diweddaraf sy’n effeithio ar y gymuned leol. Byddaf hefyd yn annog preswylwyr i gymryd rhan yn ein mentrau gwirfoddoli, er mwyn cau’r bwlch rhwng myfyrwyr a phreswylwyr parhaol.
Pe bai un neges gyda chi i’w rhoi i naill ai myfyrwyr neu breswylwyr parhaol yng Nghaerdydd, beth fyddai’r neges?
Pe byddai gen i un neges i fyfyrwyr a phreswylwyr parhaol yng Nghaerdydd, byddwn i’n dweud dewch i adnabod eich cymdogion a gofalwch am eich gilydd. Gall dweud helo gyflawni gwyrthiau o ran torri rhwystrau rhwng pobl!
Os ydych yn Fyfyriwr sy’n astudio yng Nghaerdydd a hoffech gael cyngor ymarferol am symud i mewn i’ch cartref cyntaf neu gyfleoedd gwirfoddoli, ewch i wefan Emma www.cardiffdigs.co.uk
Comments are closed.