Mae rhyw asbri ar hyd y lle bob mis Medi yn Cathays wrth i Gaerdydd groesawu blwyddyn newydd o fyfyrwyr “y Glas” i’r ddinas. Ymhlith yr holl nwyddau am ddim a hyrwyddiadau, mae ein tîm wrthi’n gweithio’n galed yn lledaenu’r neges am ailgylchu.
Mae’r adran Gorfodi Gwastraff yn ymweld â myfyrwyr o ddrws i ddrws, i wneud yn siŵr eu bod yn deall y system a bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i ailgylchu. Mae’r adran strategaeth Gwastraff eisoes allan ac yn barod i’ch cwrdd ym mhob un o’r ffeiriau glasfyfyrwyr a gynhelir ledled y tair prifysgol, felly dewch draw a dweud helo, casglu deunyddiau ailgylchu a chael atebion i’ch holl gwestiynau.
Rydym yn gobeithio eich gweld chi yno!
Comments are closed.