Mae Gadewch Ond Olion Pawennau yn ffordd gyfeillgar, anymosodol o newid agweddau ac ymddygiad o ran baw cŵn.
Gall perchnogion cŵn Caerdydd a’u cŵn gofrestru fel Pencampwyr lleol, gan arwyddo’r Addewid, a gellir eu hadnabod gan fathodynnau bach â’r geiriau ‘Gadewch Ond Olion Pawennau’ arnynt y gallan nhw a’u cŵn eu gwisgo.
Mae hyrwyddwyr yn cario bagiau ychwanegol felly os nad oes gan berchennog ci arall un, gallant roi help llaw drwy rannu bag.
Bydd Carwch Eich Cartref yn darparu popeth sydd ei angen arnoch i fod yn Hyrwyddwr.
Bydd pob Hyrwyddwr yn cael pecyn Hyrwyddwr Gadewch Ond Olion Pawennau.
Cofiwch y gallwch roi gwybod am achosion o faw cŵn drwy gyfrwng App Cyngor Caerdydd.