Newyddion da! Ma’r Gregory Brothers yn dod i ysgolion Caerdydd.
Rydym yn hapus iawn cyhoeddi y bydd y Gregory Brothers yn cynnal gweithdy am ddim i 20 ysgol gynradd yng Nghaerdydd y mis Tachwedd hwn. Disgwylir iddynt ymweld â detholiad o ysgolion Cymraeg a Saesneg a byddant yn perfformio sioe hwyl a diddanol am sbwriel ac ailgylchu. Mae’r Gregory Brothers yn grŵp proffesiynol o berfformwyr y ymwelodd â ni yn 2014. Gwnaeth yr ysgolion fwynhau’r ymweliadau hyn yn fawr felly rydym wedi eu gwahodd yn ôl eleni.
Ceir canu a dawnsio a llawer o ddysgu am sut i Gadw Caerdydd yn Daclus a gofalu am ein hamgylchedd. Mae eu caneuon cofiadwy am ailgylchu yn siŵr o wneud i’r plant (a’r athrawon) ganu hefyd.
Rydym yn gobeithio y bydd yr holl ysgolion sy’n ddigon lwcus i weld y Gregory Brothers yn mwynhau’r sioe.
Comments are closed.