Ar 23 Tachwedd 2016 cynhaliom yr 11eg Sioe Gwobrau VIP Sothach Sbwriel Blynyddol, lle cawsom ddathlu gwaith caled ac ymdrechion ysgolion Caerdydd y llynedd. Fe wnaethon ni wadd cwpl o ddisgyblion o bob ysgol yng Nghaerdydd oedd yn rhan o’r gwaith, i weithredu fel ein “Llysgenhadon Ailgylchu”. Rydyn ni’n gobeithio eu bod wedi dysgu llawer ar y diwrnod ac y byddant yn rhannu eu gwybodaeth gyda’u cyd-ddisgyblion yn ôl yn yr ysgol.
Ar y diwrnod cyflwynom wobrau i rai o gyfranogwyr gorau ein hymgyrch Sothach Sbwriel 2016. Enillydd mawr y dydd oedd Ysgol Gynradd Gatholig St Philip Evans, a enillodd y wobr Ysgol Werdd y Flwyddyn 2016. Roedden ni wedi’n synnu gyda’u hymrwymiad i sicrhau bod disgyblion ac athrawon yn gwneud eu hysgol a’r ardal leol yn amgylchedd mwy gwyrdd trwy annog llai o wastraff bwyd, sefydlu banc dillad Nadolig, casglu sbwriel a throi goleuadau, cyfrifiaduron ac offer arall i ffwrdd pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Roedd yr enillwyr eraill fel a ganlyn:
Athro y Flwyddyn 2016 – Rachel Johns o Ysgol Gynradd Kitchener
Hyrwyddwyr Gwastraff Bwyd 2016 – Ysgol Gynradd Moorland
Ailgylchwr y Flwyddyn 2016 – Erin o Ysgol Gynradd St Bernadette
Gwobr Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu, Adfer – Ysgol Gynradd Ton-Yr-Ywen
Yn ogystal â chyflwyno gwobrau, cafodd y plant gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai cynaliadwyedd dan arweiniad Caru Bwyd Casáu Gwastraff, Un Blaned, Viridor ac adran ynni Cyngor Dinas Caerdydd.
Hoffem longyfarch yr holl enillwyr a diolch i’n noddwyr Viridor a Cornerstone am ein helpu i greu digwyddiad mor arbennig.
Tan y tro nesaf…
Tîm Sothach Sbwriel
Comments are closed.