Mae Tîm Strategaeth Gwastraff Cyngor Caerdydd wedi datblygu Gweithdy Ysgol cyffrous ar destun Ailgylchu a Gwastraff ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2. Gallwn gyflwyno gwasanaeth o flaen yr holl ysgol hyd yn oed!
Mae deall pam y cawn ein hannog i ailgylchu’n rhan bwysig o’n bywyd bob dydd.
- Mae’r gwasanaeth yn trafod beth sy’n digwydd i ailgylchu Caerdydd y tu ôl i’r llen, a bydd yn para tuag ugain munud.
- Mae’r gweithdy’n trafod creu nwyddau o gynnyrch wedi eu hailgylchu a phrofi gwybodaeth y plant. Gall y gweithdy bara hyd at 40 munud ac mae’n addas ar gyfer dosbarth o hyd at 30 plentyn.
Gallwch ddarllen rhagor o fanylion am yr hyn y gallwn ei gynnig yn y Canllaw ar y Gweithdy i athrawon.
Os hoffech i ni ddod i’ch ysgol, cysylltwch â’r Tîm Strategaeth Gwastraff yn Ffordd Lamby, naill ai dros y ffôn neu e-bost. Mae’r ymweliad am ddim!
E-bost – timstrategaethgwastraff@caerdydd.gov.uk
Ffôn – 02920 717500
Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!
“Roedd y cyflwyniad ar lefel y gallai’r holl blant ei deall ac roedd yn addysgol iawn; roedd y tîm yn gyfeillgar iawn ac yn sicr, ategodd y cyflwyniad yr angen i ostwng, ailddefnyddio ac ailgylchu. Roedd y plant yn awyddus iawn i gymryd rhan a dangos eu gwybodaeth i’r tîm!”