Swyddog Dim Ysmygu a Gorfodi Gwastraff ar y Cyd
Fel rhan o ymgyrch newydd i leihau sbwriel ac ysmygu ar safle’r ysbyty, mae’r BIP wedi gwneud penderfyniad unigryw i gychwyn rôl ar y cyd â Chyngor Dinas Caerdydd i gyflogi Swyddog Dim Ysmygu a Gorfodi Gwastraff am 30 awr yr wythnos. Bydd hyn yn galluogi deiliad y swydd i roi Hysbysiadau Cosb Benodedig o £80 i unrhyw un sy’n cael ei ddal yn gollwng sbwriel o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 – yn ogystal â pharhau i herio ysmygwyr o dan Bolisi Dim Ysmygu’r BIP.
Er bod gwastraff o becynnu bwyd yn cyfrannu at gyfanswm y sbwriel ar y safle, y brif ffynhonnell yw bonion sigarennau sy’n cronni mewn niferoedd anferthol ger prif mynedfeydd yr ysbyty, gan gynnwys yr unedau mamolaeth a phlant.
Mae’n waith hynod annymunol a drud i glirio’r bonion hyn sydd wedi’u taflu. Fodd bynnag, un broblem fawr gyda phobl yn ysmygu ar y safle yw bod cleifion, y mae llawer ohonynt eisoes yn dost neu’n fregus iawn, yn anadlu mwg gwenwynig ail-law, a allai achosi mwy o niwed iddynt.
Mae’r cytundeb hwn rhwng Cyngor Dinas Caerdydd a’r BIP yn cyfuno dwy rôl flaenorol o herio ysmygwyr a gorfodi gwastraff a chyda mwy na 4000 o ysmygwyr yn cael eu herio dros y flwyddyn ddiwethaf, bydd y rôl newydd flaengar hon yn sicrhau y bydd y swyddog newydd yn bysur!
Mae Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Dr Sharon Hopkins, yn croesawu’r newyddion: Mae’r rhan fwyaf o bobl yn deall pam na chaniateir ysmygu ar safle’r ysbyty ac maent yn parchu ein polisi.
“Mae bonion sigarennau’n cronni yn cyfleu’r neges bod ysmygu’n dderbyniol ar y safle, ond nid yw hyn yn wir o gwbl. Mae’n bleser gennym weithio gyda’r cyngor i roi’r neges hon yn blwmp ac yn blaen.”
Trwy ddilyn yr ymagwedd ragweithiol hon at leihau smygu ar safle ei ysbyty, mae BIP Caerdydd a’r Fro yn disgwyl y bydd cadarnhau Deddf Diogelu’r Cyhoedd (Cymru) 2017, pan ddaw i rym cyfreithiol, yn ei gwneud yn anghyfreithlon i ysmygu ar safle ysbyty.
Os ydych chi’n ysmygwr sy’n ystyried rhoi gorau iddi, gall y GIG gynnig cefnogaeth am ddim i chi gyflawni eich nod trwy’r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.helpmequit.wales/cy, ffoniwch 0800 085 2219 neu anfonwch neges destun “HMQ” i 80818.
Comments are closed.