Yn rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr 2020 rydym yn cymeradwyo ac yn dathlu ein hymgyrchwyr sbwriel sy’n gweithio’n ddiflino ym mhob tywydd i help i gadw Caerdydd yn daclus!
Mae’r tîm Carwch Eich Caerdydd fel arfer yn cynnal digwyddiadau ledled y ddinas lle caiff gwirfoddolwyr eu gwahodd i ddod i gwrdd â gwirfoddolwyr eraill a dysgu am ymgyrchoedd casglu sbwriel y dyfodol ac mae’n gyfle i ni ddweud diolch yn fawr iddyn nhw dros goffi a chacen. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig presennol, rydym yn diolch i’r timau eleni mewn ffordd rithwir.
Rydym am ddweud DIOLCH ENFAWR i’r holl grwpiau Cadwch yn Daclus anhygoel, a’r Ymgyrchwyr Carwch Eich Caerdydd a Gadael Ôl Pawennau’n Unig. Erbyn hyn mae gennym 151 o ymgyrchwyr wedi cofrestru gyda ni ynghyd â 18 o grwpiau anhygoel. Yn ogystal â’r holl bobl sy’n gofalu am y planhigion stryd cymunedol ar draws y ddinas!
Mae’n fraint i ni weithio ochr yn ochr ag aelodau mor wych o’r gymuned sy’n ymdrechu i wneud Caerdydd yn lle gwell i fyw a gweithio i bawb.
Mae’n wych gweld nifer y grwpiau’n parhau i gynyddu a sut mae’r rhai mwy sefydledig yn helpu i sefydlu rhai newydd, gan rannu eu harbenigedd a’u dealltwriaeth. Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd eleni – rydych i gyd yn arwyr!
Diolch i’n holl wirfoddolwr – gwirfoddolwyr blaenorol, presennol a rhai’r dyfodol.
*Llun wedi’i dynnu cyn i fesurau ymbellhau cymdeithasol ddod i rym List T
Comments are closed.