Wedi clywed am y No Straw Stand? Dysgwch amdano gan un o’r sefydlwyd Nia Jones:
Ym mis Awst y llynedd, fe wnes i a Douglas Lewns, myfyriwr yn astudio Daearyddiaeth Amgylcheddol, sefydlu mudiad yn annog busnesau yng Nghaerdydd i gael gwared â gwellt plastig a defnyddio rhai mwy cynaliadwy i leihau llygredd plastig defnydd unigol y ddinas o’r enw ‘The No Straw Stand’. Roedd hyn yn dilyn ein hastudiaethau ar sut mae gweithredoedd dynol yn effeithiol ar yr amgylchedd. Hyd yn hyn, mae ein hymdrechion wedi arwain at 28 busnes yn dilyn ‘The No Straw Stand’. Rydyn ni nawr yn gweithio â’r cyngor lleol, a mudiadau eraill i ddatblygu rhaglenni allgymorth i gyflwyno’r syniad o actifiaeth amgylcheddol a busnesau cynaliadwy i blant ysgol a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Y ffordd hawsaf i gymryd rhan yw siarad â’ch bwytai a chaffis lleol ynghylch sut a pham y dylen nhw ddilyn ‘The No Straw Stand’. Os byddwch yn dod o hyd i fusnes nad ydyw’n defnyddio gwellt plastig rhannwch y newyddion da trwy’r cyfryngau cymdeithasol, @nostrawstand, a defnyddiwch yr hashnod #TheNoStrawStand.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r wefan: https://nostrawstand.com/
Comments are closed.