Ymgyrch Gadewch Ond Olion Pawennau

Mae Gadewch Ond Olion Pawennau yn ffordd gyfeillgar, anymosodol o newid agweddau ac ymddygiad o ran baw cŵn.

Gall perchnogion cŵn Caerdydd a’u cŵn gofrestru fel Pencampwyr lleol, gan arwyddo’r Addewid, a gellir eu hadnabod gan fathodynnau bach â’r geiriau ‘Gadewch Ond Olion Pawennau’ arnynt y gallan nhw a’u cŵn eu gwisgo.

Mae hyrwyddwyr yn cario bagiau ychwanegol felly os nad oes gan berchennog ci arall un, gallant roi help llaw drwy rannu bag.
Bydd Carwch Eich Cartref yn darparu popeth sydd ei angen arnoch i fod yn Hyrwyddwr.

Bydd pob Hyrwyddwr yn cael pecyn Hyrwyddwr Gadewch Ond Olion Pawennau.

Cofiwch y gallwch roi gwybod am achosion o faw cŵn drwy gyfrwng App Cyngor Caerdydd.

Yr Addewid Gadewch Ond Olion Pawennau

  1. Byddaf yn glanhau ar ôl fy nghi bob tro ac yn gwaredu’r bag yn briodol. .
  2. Byddaf i a’m ci yn gwisgo’n bathodynnau Hyrwyddwr lle bo’n bosibl i ddangos i bobl eraill ein bod yn Hyrwyddwyr.
  3. Byddaf yn cario bagiau ychwanegol i’w rhoi i bobl os bydd angen.
  4. Tra byddaf yn Hyrwyddwr, ni fyddaf yn herio cerddwyr cŵn eraill am adael i’w cŵn faeddu. Rwy’n deall bod ymgyrch ‘Gadewch Ond Olion Pawennau’ yn osgoi gwrthdaro ac yn ffordd gyfeillgar o atgoffa cerddwyr cŵn eraill i newid agweddau ac ymddygiad
  5. Rwy’n cytuno i gymryd rhan mewn arolygon ymgyrch gan Gyngor Caerdydd.
  6. Rwy’n cytuno i dderbyn diweddariadau achlysurol am Gadewch Ond Olion Pawennau, ond rwy’n gwybod y gallaf ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.

    Manylion personol

    Manylion cyswllt

    Manylion cerdded cŵn

    Ydych chi’n teimlo bod baw cŵn yn broblem yn yr ardal(oedd) lle rydych yn mynd â’ch ci am dro?

    Wyddech chi eich bod yn gallu rhoi baw cŵn mewn biniau stryd/parc?

    Ydych chi’n gwybod ble mae’r biniau yn y man lle rydych chi’n mynd â’ch ci am dro?

    Yr Addewid Gadewch Ond Olion Pawennau

    Cyn cyflwyno’r cais hwn rhaid i chi gytuno i’r telerau ac amodau canlynol:

    • Byddaf yn glanhau ar ôl fy nghi bob tro ac yn gwaredu’r bag yn briodol.

    • Byddaf i a’m ci yn gwisgo’n bathodynnau Hyrwyddwr lle bo’n bosibl i ddangos i eraill ein bod yn Hyrwyddwyr.

    • Byddaf yn cario bagiau ychwanegol i’w rhoi i bobl os oes angen.

    • Tra byddaf yn Hyrwyddwr, ni fyddaf yn herio cerddwyr cŵn eraill am adael i’w cŵn faeddu. Rwy’n deall bod ymgyrch ‘Gadewch Ond Olion Pawennau’ yn osgoi gwrthdaro ac yn ffordd gyfeillgar o atgoffa cerddwyr cŵn eraill i newid agweddau ac ymddygiad.

    • Rwy’n cytuno i gymryd rhan mewn arolygon ymgyrch gan Gyngor Caerdydd.

    • Rwy'n cytuno i dderbyn diweddariadau achlysurol am Gadewch Ond Olion Pawennau, ond rwy'n gwybod y gallaf ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.

    Caiff y wybodaeth a rowch yn y ffurflen hon ei thrin yn gyfrinachol, yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a’r Egwyddorion Diogelu Data Cyffredinol. Caiff unrhyw ddata a roddir gennych ar y ffurflen hon ei brosesu yn unol â gofynion y Ddeddf Diogelu Data, ac wrth ei roi rydych chi’n caniatáu i Gyngor Caerdydd ei brosesu at y diben y’i rhoddwyd. Bydd yr holl wybodaeth bersonol a roddir yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol a dim ond at ddibenion a ganiateir gan y gyfraith y bydd yn cael ei defnyddio gan Gyngor Caerdydd neu ei datgelu i eraill. Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â carwcheichcartref@caerdydd.gov.uk. Os felly, byddwn yn rhoi'r gorau i brosesu cyn gynted ag y gallwn. Fodd bynnag, ni fydd yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a wnaed cyn i chi dynnu’r cydsyniad yn ôl. Mae gennych hefyd hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Os hoffech chi ofyn am gopi, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost uchod. Byddwn ond yn cadw'ch data cyhyd ag y bydd ei angen arnom i gyflawni ein dibenion, gan gynnwys unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd. Bydd eich data'n cael ei gadw'n ddiogel yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r Cyngor.

    Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

    © Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

    Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd