Gwyddom nad yw cyfarfodydd uned yn digwydd ar hyn o bryd ar gyfer aelodau’r Geidiau a’r Sgowtiaid ond dyw hynny ddim yn golygu na allwch chi ennill bathodyn!
Rydym wedi addasu Bathodyn Carwch Eich Caerdydd i’w wneud gartref ac mae am ddim ar gyfer holl aelodau’r Geidiau a’r Sgowtiaid yng Nghaerdydd sydd am gymryd rhan. Felly beth am roi cynnig arni?
Mae’r cyfan y byddwch eu hangen, ynghyd ag adnoddau defnyddiol eraill, i’w canfod yma:
Yna, anfonwch rai lluniau atom (neu beth am ysgrifennu blog i ni) o’r hyn rydych wedi’i wneud a’i anfon at
CarwchEichCaerdydd@caerdydd.gov.uk neu ei drydar @LornaLWYL
Ar gyfer unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost fel uchod neu ffoniwch 07866932300.
Comments are closed.