Dewch yn Ymgyrchydd Sbwriel
Er na allwn gofrestru unrhyw un fel hyrwyddwr ar hyn o bryd, mae modd i chi gymryd rhan.
– Os oes gennych eich offer casglu sbwriel eich hun, cysylltwch â ni a gallwn roi bagiau priodol i chi a sicrhau eich bod yn gwybod sut i gadw eich hun yn ddiogel.
– Os nad oes gennych offer efallai y bydd un o’r grwpiau lleol yn gallu rhoi benthyg rhai i chi: i gael manylion am eich grwpiau lleol, cliciwch Yma.
Os ydych yn mynd allan gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y canllawiau diogelwch isod a gadewch i ni wybod beth ydych chi’n ei wneud – rydym wrth ein bodd â lluniau! Gallwch e-bostio carwcheichcartref@caerdydd.gov.uk neu drydar @lornalwyl.
Casglu sbwriel – arferion gweithio diogel
Rydych chi’n gyfrifol am eich diogelwch eich hun pan fyddwch allan. Darllenwch ein cyfarwyddiadau diogelwch a’u dilyn pan fyddwch yn codi sbwriel. Byddwch yn synhwyrol a pheidiwch â chymryd risgiau.
- Dim ond os yw’n rhan o’ch ‘ymarfer bob dydd’ y dylech gasglu sbwriel y tu allan i’ch cartref.
- Peidiwch â mynd allan os ydych chi’n teimlo’n anhwylus neu os ydych chi’n dangos symptomau annwyd neu ffliw, bod gennych dymheredd uchel neu beswch newydd a pharhaus.
- Peidiwch byth â chodi sbwriel gyda’ch dwylo, defnyddiwch grafanc codi sbwriel bob tro.
- Defnyddiwch eich menig personol i gasglu sbwriel a’u gwisgo bob amser wrth wneud hynny. Golchwch eich dwylo yn drylwyr am 20 eiliad gan ddefnyddio sebon a dŵr poeth cyn ac ar ôl casglu.
- Gwisgwch esgidiau sy’n cau am eich traed a dillad synhwyrol a phriodol, sy’n addas i dywydd newidiol Caerdydd. Os bydd yn braf, gwisgwch ddillad â llewys, het, eli haul a chofiwch yfed digon o ddŵr. Os oes gennych fest gwelededd uchel rydym yn argymell i chi ei gwisgo.
- Sicrhewch fod ffôn symudol â batri llawn wrth law rhag ofn y bydd argyfwng.
- Peidiwch â chodi sbwriel yn agos at ffyrdd prysur neu gyflym (mae yna draffig o hyd), ar gledrau’r rheilffordd neu gerllaw, neu gerllaw neu mewn dŵr. Cofiwch hefyd i barchu’r dirwedd yn gyffredinol.
- Dim ond mewn ardaloedd wedi’u goleuo’n dda a lle bo gwelededd yn dda y dylech godi sbwriel. Peidiwch â chodi sbwriel gyda’r nos.
- Byddwch yn ofalus wrth godi sbwriel mewn ardaloedd lle mae ‘na lystyfiant. Gall y tir od yn anwastad a gall planhigion guddio peryglon.
- Arhoswch o leiaf 2 fetr (tua 3 cham) i ffwrdd oddi wrth bobl eraill nad ydynt yn byw yn eich cartref.
Bydd ein criwiau ond yn casglu bagiau cymunedol pinc ac ni fyddant yn casglu bagiau du. Gadewch fagiau pinc nesaf at fin mor agos at y brif ffordd â phosibl. Dylid mynd ag ailgylchu adref.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â carwcheichcartref@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 07866 932300
There are currently no scheduled events.