Mae’r dail yn disgyn eto wrth i’r Hydref ein cyfarch ac rydym yn gofyn am eich help.
Er bod ein timau Cyngor yn brysur yn clirio’r dail o amgylch strydoedd Caerdydd, ni allant fod ymhobman un ar unwaith. A dyma lle gallwch helpu yn eich stryd.
Os ydych yn byw yn rhywle gyda choed ar y stryd yna beth am gyfrannu at yr ymgyrch “Sgubo’r Stryd” leol? Gallwch ei wneud eich hun, neu gynnwys eich cymdogion am sesiwn clirio dail gan gadw pellter cymdeithasol.
Byddwn yn rhoi bagiau i chi, a’r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dweud wrthym bryd y maen nhw’n llawn fel y gallwn eu casglu.
Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â carwcheichcaerdydd@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 029 2071 7564.
Comments are closed.